Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

11 Chwefror 2019

SL(5)315 – Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Parafeddyg-Ragnodydd Annibynnol a Pharafeddyg- Ragnodydd Atodol) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2004, Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Presgripsiynau am Ddim a Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2007 a Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2013 i estyn y diffiniad o ragnodydd i gynnwys parafeddygon-ragnodwyr annibynnol. Maent hefyd yn diwygio’r diffiniad o ragnodydd atodol yn y Rheoliadau hynny i gynnwys parafeddygon-ragnodwyr atodol.

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 2010 drwy estyn yr esemptiad rhag y gofyniad i godi tâl am fagiau siopa untro i gynnwys cynhyrchion a ragnodir gan barafeddyg-ragnodydd annibynnol a pharafeddyg-ragnodydd atodol.

Mae’r diwygiadau hyn wedi eu gwneud o ganlyniad i gyflwyno rhagnodi annibynnol a rhagnodi atodol ar gyfer parafeddygon cofrestredig o dan ddiwygiadau a wnaed i Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012 gan Reoliadau Meddyginiaethau Dynol (Diwygio) 2018.

Rhiant-Ddeddf: Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006; Deddf Newid yn yr Hinsawdd 2008

Fe’u gwnaed ar: 29 Ionawr 2019

Fe’u gosodwyd ar: 31 Ionawr 2019

Yn dod i rym ar: 22 Chwefror 2019